Croeso i NestEgg
Rydych chi wedi cyrraedd yma yn dilyn atgyfeiriad gan Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru. Efallai eich bod wedi benthyca gan fenthyciwr arian didrwydded yn y gorffennol neu wedi cael eich anfon at NestEgg i gael dewis arall cyfrifol.
Mae NestEgg yn paru pobl sy'n chwilio am fenthyciadau fforddiadwy â benthycwyr cyfrifol yn y DU o'r enw undebau credyd
Mae undeb credyd yn fenter gydweithredol ddielw, sy’n darparu benthyciadau a chyfrifon cynilo i’w haelodau.
Mae undebau credyd yn arbenigo mewn benthyciadau gwerth llai ac yn aml yn derbyn ceisiadau gan fenthycwyr sydd â sgorau credyd is.